SL(6)474 – Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfraddau tâl isaf a thelerau ac amodau cyflogaeth eraill ar gyfer gweithwyr amaethyddol.

 

Mae'n dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023 gyda newidiadau sy'n cynnwys cynyddu’r cyfraddau tâl isaf fesul awr ar gyfer gweithwyr amaethyddol. 

 

Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn yn darparu bod gweithwyr amaethyddol i gael eu cyflogi yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau sydd wedi eu nodi yn Rhannau 2 i 5 o’r Gorchymyn ac yn pennu’r graddau a’r categorïau gwahanol o weithiwr amaethyddol.

 

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch:

·         cyfraddau tâl isaf;

·         lwfans gwrthbwyso llety;

·         lwfans cŵn;

·         lwfans ar alwad;

·         lwfans gwaith nos; a

·         grantiau geni a mabwysiadu.

 

Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan amgylchiadau sydd wedi eu pennu.

 

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael amser i ffwrdd, gan gynnwys seibiannau gorffwys, gorffwys dyddiol a chyfnod gorffwys wythnosol. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynghylch blwyddyn gwyliau blynyddol gweithiwr amaethyddol a’i hawl i gael gwyliau blynyddol, tâl gwyliau a thaliad yn lle gwyliau blynyddol. Mae’r Rhan hon hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb â thâl oherwydd profedigaeth.

 

Mae Rhan 6 yn cynnwys dirymiad a darpariaeth drosiannol.

 

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd.

Gall y Senedd ddirymu’r Gorchymyn o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 18 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn y Tabl Cynnwys, mae’r cofnodion ar gyfer erthyglau 5 i 9 (sy’n ymwneud â’r graddau gwahanol o weithiwr amaethyddol) yn wahanol i’r penawdau a geir uwchben yr erthyglau hyn yn y Gorchymyn.

2.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn erthygl 2(1), nid yw’r diffiniadau a ganlyn wedi eu rhestru yn y lle cywir yn nhrefn yr wyddor yn nhestunau Cymraeg a Saesneg y Gorchymyn hwn—

a)    yn y testun Saesneg, dylai “agriculture” fod wedi’i restru ar ôl “agricultural worker” a dylai “the national minimum wage” fod wedi’i restru ar ôl “hours”;

 

b)     yn y testun Cymraeg, dylai “cyflogaeth” fod wedi’i restru ar ôl “cyflog wythnosol arferol”.

Yn hyn o beth, mae’r fannod yn cael ei hanwybyddu wrth drefnu’r diffiniadau (gweler Drafftio Deddfau i Gymru, 4.15(1) a (2)).

Yn yr un modd, yn erthygl 22(4), nid yw’r diffiniadau o “diwrnodau cymwys” ac “oriau cymwys” wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor yn y ddarpariaeth ddehongli. Yn ogystal, dylai’r termau cyfatebol yn yr iaith arall gael eu cynnwys mewn cromfachau ac mewn llythrennau italig ar ôl y diffiniadau. Yn olaf, ni ddylid cynnwys y cysylltair “a” rhwng y diffiniadau yn y rhestr.

3.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn erthygl 2(1), mae’r termau “ar alwad”, “cyflog wythnosol arferol”, “grant geni a mabwysiadu”, “gwaith allbwn” a “gwaith nos” i gyd wedi’u diffinio fel pe bai iddynt ystyr ar gyfer y Gorchymyn hwn. Ond dim ond mewn un erthygl yn y Gorchymyn y defnyddir pob un o’r termau hyn. Felly, dylai’r termau hynny fod wedi’u diffinio mewn darpariaeth ddehongli yn yr erthygl y'u defnyddir ynddi.

4.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn erthygl 2(1), yn y diffiniad o “plentyn”, defnyddir yr ymadrodd “bydd” pan ymddengys fod datganiad datganiadol yn cael ei wneud ynghylch ystyr y term hwnnw – “Bydd plentyn yn blentyn gweithiwr amaethyddol os…. ”. Ond mae canllawiau drafftio Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai deddfwriaeth osgoi defnyddio “bydd” ar gyfer datganiadau datganiadol ac y dylid defnyddio’r mynegol presennol mewn datganiadau o’r fath (gweler Drafftio Deddfau i Gymru, 3.14(5)).

5.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn erthygl 2(1), yn y diffiniad o “cyflogaeth”, nid oes angen dweud y dylid dehongli “a gyflogir” a “cyflogwr” yn unol â hynny, oherwydd effaith adran 9 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

Hefyd yn erthygl 2(1) mae diffiniad o “isafswm cyflog cenedlaethol” ar gyfer y Gorchymyn hwn. Fodd bynnag, ni ddefnyddir y term hwn yn y Gorchymyn hwn heblaw yn nheitl Deddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998. Felly, nid yw'n ymddangos bod unrhyw ddiben i'r diffiniad hwn.

Yn yr un modd, yn erthygl 2(1), mae diffiniad o “amser gweithio”—

a)    ni ddefnyddir y term hwn yn y Gorchymyn heblaw yn nheitl Rheoliadau Amser

Gweithio 1998. Felly, nid yw'n ymddangos bod unrhyw ddiben i’r diffiniad;

 

b)    nid oes angen dweud y dylid dehongli “gwaith” yn unol â hynny, oherwydd effaith adran 9 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Efallai y dylid diffinio “gwaith” ar wahân os oes angen gwneud hynny ar gyfer y Gorchymyn hwn, a hepgor y diffiniad o “amser gweithio”;

 

c)     mae gwahaniaeth bach rhwng testun Cymraeg a thestun Saesneg y diffiniad hwn. Ar ddechrau paragraff (a), yn y testun Cymraeg, mae “any time” wedi’i gyfieithu gan ddefnyddio’r un ymadrodd ag a ddefnyddir ar gyfer “any period” ar ddechrau paragraff (b), sef “unrhyw gyfnod”. Mae hefyd yn golygu bod y gair “time” wedi’i gyfieithu’n wahanol yn yr ymadrodd “unrhyw gyfnod” o gymharu â'r geiriau “ond nad yw'n cynnwys amser a dreulir…” sy'n dod wedyn ym mharagraff (a) o'r diffiniad hwnnw.

6.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn erthygl 2(1), mae’r term “diwrnodau cymwys” wedi’i ddiffinio, ac mae ystyr wedi’i roi iddo yn y Gorchymyn hwn. Fodd bynnag, mae’r term hwn hefyd wedi’i ddiffinio ag ystyr gwahanol yn erthygl 22(4) at ddibenion yr erthygl honno yn unig. Felly, dylai fod cofnod yn y diffiniad o “diwrnodau cymwys” yn erthygl 2(1) sy’n dweud “ac eithrio yn erthygl 22”, er mwyn esbonio wrth y darllenydd ble y mae’r diffiniad yn gymwys yn y Gorchymyn.

7.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae erthygl 14 yn cyfeirio at weithwyr amaethyddol a gyflogwyd cyn 22 Ebrill 2022, sef y dyddiad y daeth Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022 (O.S. 2022/417 (Cy. 102)) i rym. Dyma’r dyddiad y daeth y cyntaf o ddau Orchymyn Cyflogau Amaethyddol a wnaed yn 2022 i rym o ran Cymru. Fodd bynnag, a ddylid diweddaru’r ddarpariaeth hon i gyfeirio at y Tabl yn Atodlen 1 i Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023 (O.S. 2023/260 (Cy. 37)) neu a yw’n gywir? (Yn ogystal, yn y testun Saesneg, dylai ddweud “Schedule 1 to” yn hytrach nag “of” mewn perthynas â Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022.)

8.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn erthygl 16(b), yn y testun Saesneg, defnyddir yr ymadrodd “cannot” wrth osod gwaharddiad. Ond yr ymadrodd “must not” yw'r ymadrodd a argymhellir wrth osod gwaharddiad (gweler Drafftio Deddfau i Gymru, 3.13(4)).

9.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn erthygl 21(1), defnyddir yr ymadrodd “ni fydd” (“will not”) yn y ddarpariaeth, ond mae canllawiau drafftio Llywodraeth Cymru yn dweud y dylid osgoi defnyddio “bydd” (“will”) wrth wneud datganiadau – gweler Drafftio Deddfau i Gymru, 3.14(5). Hefyd, yn nhestun Saesneg erthygl 38(2)(b) o’r Gorchymyn hwn, defnyddir yr ymadrodd “will” pan allai’r geiriau “is to” fod yn fwy priodol.

10. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Nid yw’n glir o dan ba amgylchiadau y gallai erthygl 22(5) fod yn gymwys. Mae’r erthygl hon yn gwneud darpariaeth i ganiatáu cyfrifo symiau tâl salwch amaethyddol “pan fo gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr am lai nag 8 wythnos”. Fodd bynnag, mae erthygl 19(a) yn darparu na fydd gweithiwr amaethyddol ond yn cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn os yw, ymhlith pethau eraill, “wedi cael ei gyflogi’n ddi-dor gan ei gyflogwr am gyfnod o 52 o wythnosau o leiaf cyn yr absenoldeb salwch”.

Os nad oes unrhyw amgylchiadau pan fyddai erthygl 22(5) yn gymwys, mae’r ddarpariaeth hon yn ddiangen, gan na fyddai angen darparu mecanwaith ar gyfer cyfrifo’r taliad hwn gan na fyddai gan neb hawl i’w gael.

Mae erthygl 19(a), o’i darllen ar ei phen ei hun, yn darparu maen prawf cymhwyso clir, ond gallai presenoldeb 22(5) o dan yr amgylchiadau hyn gamarwain darllenwyr i gredu y gallai gweithwyr sydd â llai na 52 wythnos o wasanaeth fod yn gymwys i gael taliad, oherwydd bod mecanwaith i gyfrifo taliad o'r fath.

11. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn erthygl 25(1), yn y testun Cymraeg, gellid dehongli’r cyfieithiad fel un sy’n cyfyngu’r ymadrodd “yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch” i’r geiriau “os terfynir naill ai contract gweithiwr amaethyddol neu ei brentisiaeth”. Felly, byddai’r testun Cymraeg yn gliriach pe bai’r ymadrodd “yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch” yn cael ei ailadrodd ar ôl y geiriau “neu os rhoddir hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth i gael ei derfynu neu ei therfynu”.

12. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn erthygl 26(1), mae’r ddarpariaeth yn dweud y “gall ei gyflogwr adennill gordaliad”. Ond nid yw’n ymddangos bod defnyddio “gall” yn briodol oherwydd bod y ddarpariaeth yn rhoi pŵer cyfreithiol yn ôl disgresiwn i wneud rhywbeth yn hytrach na chyfeirio at bosibilrwydd. Gan hynny, “caiff” yw’r term y dylid ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwn – gweler Drafftio Deddfau i Gymru, 3.13(3). Mae darpariaeth arall hefyd yn nhestun Saesneg erthygl 38(2)(a) lle’r ymddengys y byddai “may” yn hytrach na “can” yn fwy priodol yn y geiriau “worker can receive a payment”.

13. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn erthygl 26(2), mae gwahaniaeth bach rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Ar ddiwedd y frawddeg yn y testun Saesneg, mae’n cyfeirio at “payment of the agricultural worker’s final wages” ond mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio at “daliad cyflog olaf y gweithiwr”. Mae’r un gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg yn digwydd mewn perthynas â’r term “gweithiwr amaethyddol” a “gweithiwr” ar ddiwedd erthygl 43(2). Yn hyn o beth, mae “gweithiwr amaethyddol” yn derm sydd wedi’i ddifinio yn y Gorchymyn hwn. Ond mae’r testun Saesneg hefyd braidd yn anghyson yn hyn o beth, oherwydd mewn rhai erthyglau eraill defnyddir yr ymadrodd “the worker” ar ôl cyfeiriad cyntaf at “the agricultural worker” (gweler erthyglau 15(2), 19(c), 27(2)(b), 35(4) a 35(5)).

14. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn erthygl 41(2), mae strwythur y ddarpariaeth yn anghywir oherwydd bod is-baragraff (a) ond nad oes is-baragraffau dilynol. Felly, dylai erthygl 41(2) fod wedi’i strwythuro fel un frawddeg heb unrhyw is-baragraffau. Dylai’r wybodaeth a geir yn is-baragraff (a) fod wedi’i hymgorffori yn y frawddeg honno.

15. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn erthygl 42(5), mae’n dweud, “pan fo’r erthygl hon yn gymwys”, y dylid defnyddio fformwla a geir yn y ddarpariaeth honno i gyfrifo swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth. Ond ymddengys fod hyn yn anghywir oherwydd dylai ddweud “pan fo’r paragraff hwn yn gymwys” os nad yw ond yn cyfeirio at amgylchiadau pan fo paragraff (5) yn gymwys. O ran hyn, mae fformwla arall ym mharagraff (3) o erthygl 42, ac nid yw’r ddarpariaeth honno’n cynnwys y geiriau “pan fo’r erthygl hon yn gymwys” yn y man cyfatebol.

16. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn erthygl 43(1), yn y testun Saesneg, defnyddir y term “shall” yn y geiriau “the agricultural worker shall be entitled to an amount…”. Fodd bynnag, mae canllawiau drafftio Llywodraeth Cymru yn dweud na ddylid defnyddio “shall” mewn deddfwriaeth ac eithrio wrth ddiwygio deddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli oherwydd y gall yr ystyr fod yn amwys - gweler Drafftio Deddfau i Gymru, 3.14(1). Byddai wedi bod yn fwy cyson â gweddill y ddarpariaeth pe byddid wedi defnyddio ymadrodd megis “is [to be]”.

Yn ogystal, yn erthygl 43(2), mae cyfeiriad a ddisgrifir yn anghywir fel “yn unol ag erthygl 43(1)”. Ond, er cywirdeb, dylai ddweud “yn unol â pharagraff (1)” gan ei fod yn cyfeirio at baragraff arall yn yr un erthygl.

17. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn Atodlenni 1, 2 a 4, yn y nodiadau cwr tudalen, mae erthyglau eraill yn y Gorchymyn hwn sy’n cyfeirio at y priod Atodlenni hynny nad ydynt wedi’u cynnwys yn y nodiadau hynny. Felly, mae'n ymddangos bod y nodiadau cwr tudalen yn anghyflawn ar gyfer yr Atodlenni hynny.

18. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn Atodlen 4, yn y Tabl, yn y drydedd golofn o dan y pennawd “Gogledd Iwerddon”, yn y rhes waelod, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Mae’r testun Saesneg yn cyfeirio at “Higher Level Apprenticeship” ar Lefel 4, ond mae’r Gymraeg yn dweud “Prentisiaeth Uwch” ar Lefel 4. Credwn mai’r testun Saesneg sy’n gywir gan fod “Higher Level Apprenticeship” neu “HLA” yn gymhwyster yng Ngogledd Iwerddon sy’n wahanol i “Higher Apprenticeship”.

Yn ogystal, yn Atodlen 4, a ddylid newid y pennawd presennol “Tabl” i “Tabl 1” a chynnwys pennawd arall, sef “Tabl 2”, ar gyfer y tabl sy’n dod wedyn, sef “Cymwysterau cyfatebol o dan y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (‘FfCE’)”, yn yr Atodlen honno?

 

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

19. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Daeth y Gorchymyn i rym ar 1 Ebrill 2024, lai na 21 diwrnod ar ôl iddo gael ei osod ar 19 Mawrth 2024. Mewn llythyr dyddiedig 19 Mawrth 2024 at y Llywydd, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar y pryd, Lesley Griffiths AS:

“Cymerwyd mwy o amser na'r disgwyl i gwblhau Gorchymyn 2024 gan fod yn rhaid wrth graffu cyfreithiol hir ar y newidiadau i'w symleiddio er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effeithiau cyfreithiol cywir.

Bwriad y Panel yw i Orchymyn 2024 ddod i rym ar 1 Ebrill 2024 er mwyn alinio'r codiadau i'r Isafswm Cyflog Amaethyddol â'r cynnydd yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a fydd hefyd yn dod i rym ar y dyddiad hwnnw.

Nes y daw Gorchymyn 2024 i rym, bydd gweithwyr amaethyddol yng Nghymru yn parhau i gael eu talu yn unol â Gorchymyn 2023. Er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl a sicrhau bod gweithwyr yn cael eu talu yn unol â'r cyfraddau gofynnol y cytunwyd arnynt gan y Panel, cynigir na fyddwn yn cadw at y confensiwn 21 diwrnod wrth wneud Gorchymyn 2024 er mwyn iddo allu dod i rym ar 1 Ebrill.

Credir bod angen a chyfiawnhad peidio â chydymffurfio â'r confensiwn 21 diwrnod yng ngoleuni'r amgylchiadau anochel sydd wedi gohirio'r broses. Rwyf hefyd o'r farn bod cyfiawnhad dros leihau unrhyw oedi pellach o ran cynyddu'r cyfraddau cyflogau amaethyddol am y byddai'n lleihau'r amser y bydd gweithwyr amaethyddol sy'n dod o dan yr Isafswm Cyflog Amaethyddol dan anfantais mewn perthynas â'u dyfarniadau cyflog ac yn ei gwneud yn haws i gyflogwyr amaethyddol gydymffurfio.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

17 Ebrill 2024